Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 22 Hydref 2019
Amser:
08.30 -
08.46
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Rebecca Evans AC Darren Millar AC Rhun ap Iorwerth AC Caroline Jones AC |
Staff y Pwyllgor: |
Aled Elwyn Jones (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Siwan Davies, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Siân Wilkins, Pennaeth Gwasanaeth y Siambr a Phwyllgorau Elin Roberts, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru Reg Kilpatrick, Llywodraeth Cymru Lowri Hughes, Ysgrifenyddiaeth y Siambr |
Cytunodd y Pwyllgor ar gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Dydd Mawrth
· Cynhelir y Cyfnod Pleidleisio fel yr eitem olaf o fusnes.
Dywedodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes am fwriad y llywodraeth i gyflwyno cynnig i atal Rheolau Sefydlog er mwyn caniatáu i ddadl ar Brexit gael ei chynnal fel yr eitem olaf o fusnes cyn y Cyfnod Pleidleisio heddiw. Bydd hyn yn disodli'r 'Datganiad gan y Prif Weinidog: Diweddariad ar Brexit (45 munud)' sydd wedi'i dynnu'n ôl yn amodol ar dderbyn y cynnig i atal Rheolau Sefydlog.
Datganodd y Trefnydd ei bwriad i gyflwyno'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog a'r cynnig am ddadl cyn gynted â phosibl y bore yma. Yn dilyn hynny, bydd y Llywydd yn cyfleu'r dyddiad cau ar gyfer gwelliannau i Reolwyr Busnes.
Soniodd y Trefnydd wrth y Rheolwyr Busnes, hefyd, am y newidiadau canlynol i fusnes yr wythnos hon:
· Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Blaenoriaethau ar gyfer yr Economi Ymwelwyr 2020-2025 (45 Munud)
·
Dadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf
Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 (0 munud) - gohiriwyd tan 6
Tachwedd
Dydd Mercher
· Cynhelir yr holl bleidleisiau cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 6 Tachwedd 2019 -
· Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) (5 munud)
Dydd Mercher 20 Tachwedd 2019 -
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Amser a neilltuwyd i'r Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
Cytunodd y Rheolwyr Busnes mewn egwyddor i gyfeirio'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau i ystyried ei egwyddorion cyffredinol, ac ysgrifennu at y pwyllgor i ymgynghori ar yr amserlen arfaethedig.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i'r cais i'r Pwyllgor gwrdd y tu allan i'r amser a nodir ar yr amserlen yn ystod wythnos 21 Hydref.
Ystyriodd y Rheolwyr Busnes y papur a chytunwyd i drafod â'u grwpiau a dychwelyd ato yn eu cyfarfod ar 12 Tachwedd.
Nododd y Rheolwyr Busnes y llythyr.
Roedd Reg Kilpatrick (Cyfarwyddwr, Llywodraeth Leol) yn bresennol yn y cyfarfod i roi diweddariad byr i'r Rheolwyr Busnes ar y gofynion tebygol ar Weinidogion fel rhan o weithgaredd Ymateb Parodrwydd Brexit arfaethedig Llywodraeth Cymru pe bai'r DU yn ymadael â'r UE heb gytundeb ar 31 Hydref. Roedd hyn yn cynnwys yr angen posibl am hyblygrwydd o ran eu hargaeledd i graffu yn y Cyfarfod Llawn a'r Pwyllgorau.